Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
13 Ionawr 2016
Amser y
cyfarfod: 13.30
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
(5 munud)
NDM5921 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3:
(i) yn ethol John Griffiths (Llafur) yn aelod o, ac yn Gadeirydd, i'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad;
(ii) yn ethol Jeff Cuthbert (Llafur) fel eilydd ar gyfer y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar gyfer John Griffiths (Llafur).
(180 munud)
NDM5911 David Melding (Canol De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn croesawu adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar Fil Cymru drafft.
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar Fil Cymru drafft
Pecyn y Cyfarfod Llawn ar Fil Cymru drafft
NDM5912 David Melding (Canol De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi barn y
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, os bydd
Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen â'r amserlen bresennol ar
gyfer Bil Cymru drafft, y dylai ymrwymo i gydgrynhoi cyfraith
gyfansoddiadol Cymru yn ddwyieithog yn ystod y Senedd
bresennol.
NDM5913 David Melding (Canol De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi barn y
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y dylid diwygio
Bil Cymru drafft i gael gwared â'r prawf angenrheidrwydd neu
osod prawf yn seiliedig ar briodoldeb yn ei le.
NDM5914 David Melding (Canol De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi barn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y dylid diwygio y Bil Cymru drafft i gynnwys system i ofyn am gydsyniadau Gweinidog y Goron sy'n adlewyrchu'r model yn Neddf yr Alban 1998.
Deddf yr
Alban 1998 (Saesneg yn unig)
NDM5915 David Melding (Canol De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi barn y
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y dylid diwygio
Bil Cymru drafft i leihau'n sylweddol nifer y cymalau cadw a'r
cyfyngiadau penodol mewn ffordd sy'n cyd-fynd â deddfwrfa
aeddfed, effeithiol ac atebol a fydd yn cael pwerau treth
incwm.
NDM5916 David Melding (Canol De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi barn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y dylid diwygio Bil Cymru drafft i gynnwys awdurdodaeth benodol fel bod Deddfau Cymru yn berthnasol i Gymru yn unig ac yn addasu cyfraith Cymru a Lloegr fel sy'n briodol i'w gorfodi o fewn rheswm.
(30 munud)
NDM5917 William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cenedl sy'n cynnig lloches? Y rôl y gall Cymru ei chwarae yn yr argyfwng ffoaduriaid.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 19 Ionawr 2016